Grŵp Trawsbleidiol Cymru ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol
Crynodeb o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai 2015
Yn bresennol:
Bethan Jenkins AC, Jenny Rathbone AC
30-40 o bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau cyhyrau’n
nychu a gweithwyr iechyd proffesiynol
Muscular Dystrophy UK
Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol
Cymru
Dechreuodd Bethan Jenkins AC y cyfarfod a chroesawodd Dr Tracey Cooper, Cadeirydd newydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru.
Dr Tracey Cooper:
· Mae angen ymgysylltu â Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol Cymru, ac mae sicrhau bod rhagor o fynediad at ffisiotherapi arbenigol oedolion a chefnogaeth seicoleg yn flaenoriaeth fawr
· Mae angen i’r achos busnes a luniwyd gan Rwydwaith Niwrogyhyrol Cymru gael ei adnewyddu
· Pwysleisio’r egwyddor buddsoddi i arbed - arbed arian a helpu pobl
· Gweithio gyda Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru – mae’n bwysig nad ydym yn colli’r ffocws niwrogyhyrol
· Mae disgwyliad bod argymhellion y Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol wedi’u hymgorffori gan y Byrddau Iechyd
· Hydrotherapi - mae chwe sesiwn ar gael, yna maent yn dod i ben - nid yw hyn yn helpu pobl â chyflyrau cyhyrau’n nychu
· Mae angen rhagor o glinigau amlddisgyblaethol a chydgysylltu gwasanaethau’n well
· Mae angen edrych ar yr egwyddor siop un-stop ar gyfer apwyntiadau clinig
Rhoddodd Muscular Dystrophy UK y wybodaeth ddiweddaraf i’r rhai a oedd yn bresennol am brosiect newydd i ddatblygu cymorth gan gyfoedion i bobl sydd â chyflyrau cyhyrau’n nychu.